Newyddion S4C

Drama newydd am fywyd Lloyd George i ddathlu penblwydd amgueddfa

14/06/2022
Amgueddfa

Mae drama newydd wedi ei chreu yn seiliedig ar fywyd Lloyd George, y cyn-Brif Weinidog o Lanystumdwy, fel rhan o ddathliadau Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George yn 25 mlwydd oed.

Bydd perfformiad cyntaf y ddrama yn digwydd yn y Neuadd yn Llanystumdwy ar 23 Mehefin.

Yn dilyn y ddrama, bydd sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Manon Steffan Ros a’r dramodydd Mari Elen yn arwain y sgwrs ar y broses o ffurfio’r ddrama gyda  myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Er bod bron i ganrif ers i Lloyd George fod yn Brif Weinidog, roeddem am sicrhau fod y ddrama yn berthnasol i ni heddiw. Dyna pam y aethpwyd  ati i gael barn pobl ifanc oedd ar drothwy defnyddio eu pleidlais gyntaf.

“Mae mewnbwn myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli wedi bod yn bwysig wrth i’r dramodydd Manon Steffan Ros fwrw ati i ddatblygu’r stori a chreu’r ddrama, a fydd yn serennu’r actor Carwyn Jones.”

Dywedodd Megan Corcoran, Cydlynydd Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y perfformiad cyntaf o ddrama Dai.

“Mae’r gwaith wedi bod yn bosib ar ôl sicrhau grant Gaeaf Llawn Lles fel rhan o waith o gefnogi prosiectau sy’n cefnogi a chyfoethogi bywydau pobl ifanc Cymru yn dilyn y pandemig.

“Mae’r grant yma wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu a chreu drama un-dyn yn seiliedig ar hanes y Prif Weinidog Lloyd George.”

Mae’r ddrama yn rhan o raglen ehangach y cwmni theatr Mewn Cymeriad.

Derbyniodd yr Amgueddfa Lloyd George grant Gaeaf Llawn Lles gan Lywodraeth Cymru, drwy Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru i greu’r ddrama.

Llun: Carwyn Jones fel David Lloyd George

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.