Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cynlluniau i gael gwared â rhannau o brotocol Gogledd Iwerddon

Gallai Boris Johnson wynebu her gyfreithiol newydd gan yr Undeb Ewropeaidd ar ôl cyhoeddi cynlluniau dydd Llun i ddiwygio protocol Gogledd Iwerddon.
O dan amodau'r protocol presennol, byddai rhai nwyddau o Brydain yn gorfod cael eu gwirio cyn mynd i mewn i Ogledd Iwerddon.
Byddai'r ddeddfwriaeth newydd yn galluogi gweinidogion i ddiystyru elfennau o'r protocol, gan sicrhau pwerau newydd i'r Deyrnas Unedig ym maes trethi a chymorthdaliadau.
Ond mae'r cynlluniau eisoes wedi corddi'r dyfroedd gyda chyhuddiadau eu bod yn torri rheolau rhyngwladol.
Yn ôl Prif Weinidog Gweriniaeth Iwerddon Micheál Martin, mae'n " anffodus fod gwlad fel y Deyrnas Unedig yn cefnu ar gytundeb masnach rhyngwladol "
Rhagor yma