Wcráin: Cyn-filwr o’r DU wedi cael ei ladd mewn brwydr

Mae cyn-filwr o’r DU wedi cael ei ladd yn ymladd dros fyddin Wcráin.
Roedd Jordan Gatley wedi gadael byddin y DU ym mis Mawrth ac wedi teithio i Wcráin.
Dywedodd ei dad ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn “arwr."
Bu farw yn y frwydr am ddinas Severodonetsk yn nwyrain y wlad.
Ychwanegodd tad Mr Gatley fod ei fab wedi bod yn helpu hyfforddi lluoedd lleol.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Facebook/Dean Gatley