Tywysog Charles yn beirniadu hedfan ceiswyr lloches i Rwanda

Mae'r Tywysog Charles wedi ychwanegu ei lais at y feirniadaeth o bolisi newydd Llywodraeth y DU o anfon ceiswyr lloches i Rwanda, gan ei alw'n "erchyll" yn ôl adroddiadau.
Daw hyn wedi i'r Uchel Lys farnu ddydd Gwener fod polisi'r llywodraeth yn un cyfreithlon.
Roedd ymgyrchwyr wedi ceisio atal yr hediadau cyntaf yr wythnos nesaf mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Gwener.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y bydd y ceiswyr lloches gyntaf yn cael eu hanfon i Rwanda ddydd Mawrth fel rhan o bolisi mewnfudo newydd Llywodraeth y DU.
Roedd cyfreithwyr ar ran yr ymgyrchwyr wedi dadlau ddydd Gwener fod y polisi yn beryglus i fywydau pobl.
Mae'r cynllun yn rhan o ymdrech y llywodraeth i geisio gostwng y nifer o bobl sy'n croesi'r sianel i'r DU yn anghyfreithlon.
Darllenwch ragor yma.