Ymgyrchwyr yn yr Uchel Lys i geisio atal ceiswyr lloches rhag cael eu hanfon i Rwanda

Bydd ymgyrchwyr yn ceisio atal ceiswyr lloches rhag cael eu hanfon i Rwanda yr wythnos nesaf wrth iddyn nhw ymgyrchu yn yr Uchel Lys ddydd Gwener.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y bydd y ceiswyr lloches cyntaf yn cael eu hanfon i Rwanda ddydd Mawrth fel rhan o bolisi mewnfudo newydd Llywodraeth y DU.
Bydd cyfreithwyr ar ran yr ymgyrchwyr yn dadlau ddydd Gwener fod y polisi yn beryglus i fywydau pobl.
Gyda dim ond ychydig o ddyddiau yn unig i fynd tan y hediad cyntaf, y disgwyl ydy y gallai penderfyniad ddod ar yr un diwrnod â'r gwrandawiad.
Mae'r cynllun yn rhan o ymdrech y llywodraeth i geisio gostwng y nifer o bobl sy'n croesi'r sianel i'r DU yn anghyfreithlon.
Darllenwch fwy yma.
Llun: UNHCR