Heddlu Paris yn ymddiheuro am ddefnyddio nwy dagrau ar gefnogwyr Lerpwl

Mae pennaeth heddlu Paris wedi ymddiheuro bod y llu wedi defnyddio nwy dagrau ar gefnogwyr Lerpwl cyn ffeinal Cynghrair Pencampwyr Ewrop yn erbyn Real Madrid.
Dywedodd Didier Lallement ddydd Iau bod rheolaeth y llu yn ystod y gêm wedi bod yn "fethiant oherwydd bod pobl wedi cael eu gwthio ac wedi eu hymosod arnynt. Roedd yn fethiant oherwydd bod delwedd y wlad wedi ei thanseilio."
Er hyn, ychwanegodd Mr Lallement nad oedd yna "unrhyw opsiwn arall" ond i ddefnyddio nwy dagrau o ystyried yr amgylchiadau.
Yn flaenorol, roedd y pennaeth wedi honni bod oddeutu 40,000 o gefnogwyr wedi ceisio defnyddio tocynnau ffug i gael mynediad i'r Stade de France, gan arwain at ymateb chwyrn ymysg y cefnogwyr.
Mae cefnogwyr wedi cael y cyfle i wneud cwynion troseddol a bydd Clwb Pêl-droed Lerpwl yn cyfarfod gyda pennaeth yr adolygiad yn UEFA er mwyn sicrhau bod yr ymchwiliad yn gwbl annibynnol.
Darllenwch fwy yma.