Disgwyl i Boris Johnson geisio ail-osod ei awdurdod wedi pleidlais o hyder

Bydd Boris Johnson yn ceisio ail-osod ei awdurdod ddydd Iau yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth.
Mae disgwyl iddo gyhoeddi rhagor o fesurau er mwyn helpu pobl i brynu tai yn Lloegr gan addo y "bydd pethau yn gwella".
Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi'r mesurau yn ystod araith yn Sir Gaerhirfryn ddydd Iau er mwyn ceisio helpu pobl i leihau costau yn gyffredinol "o gostau bwyd i ynni, o ofal plant i drafnidiaeth i dai."
Daw'r newidiadau hyn wrth i Mr Johnson geisio ailosod ei awdurdod wedi i 41% o ASau Ceidwadol ei wrthwynebu mewn pleidlais o ddiffyg hyder yn sgil canfyddiadau am bartïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.
Bydd y Prif Weinidog yn awyddus i geisio symud ymlaen o'r gwrthryfela gan ddangos ei fod o ddifrif ar faterion arwyddocaol megis costau byw yn ogystal â dangos ei uchelgais i leihau trethi a cheisio annog mwy o bobl i brynu tai.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Rhif 10