Newyddion S4C

Gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ag Ynys Môn i ddod i ben

08/06/2022

Gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ag Ynys Môn i ddod i ben

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd y gwasanaeth awyr o Gaerdydd i Fôn sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus yn parhau i'r dyfodol, ar ôl cael ei atal am ddwy flynedd o achos y pandemig.

Dywedodd gweinidogion y llywodraeth y bydd y £2.9 miliwn yn flynyddol oedd yn cael ei wario ar ariannu'r gwasanaeth yn cael ei fuddsoddi mewn pecyn o fesurau i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y gogledd.

Dywed y llywodraeth fod newidiadau mewn patrymau gweithio pobl ers y pandemig wedi effeithio ar y penderfyniad, gan fod 77% o bobl oedd yn arfer defnyddio'r gwasanaeth yn ei ddefnyddio ar gyfer gwaith.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth:  “Mae'r pandemig wedi sbarduno newid enfawr i'r ffordd y mae pobl yn gweithio, gyda llai o deithio ar gyfer busnes dros y blynyddoedd diwethaf.

“Nid ydym yn credu y bydd lefelau teithwyr yn dychwelyd i lefel sy'n gwneud y gwasanaeth hwn yn hyfyw yn economaidd nac yn amgylcheddol. Yn hytrach, byddwn yn buddsoddi'r arian sy’n cael ei arbed o redeg y gwasanaeth i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gogledd. Bydd hyn o fudd i fwy o bobl ac yn ein helpu i gyrraedd ein targed Sero Net erbyn 2050.” 

Effaith ar yr amgylchedd

Mae'r penderfyniad yn dilyn canlyniad astudiaeth annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i effaith carbon y gwasanaeth ar yr amgylchedd.

Dangosodd yr astudiaeth fod y gwasanaeth wedi cael effaith fwy negyddol ar yr amgylchedd nag unrhyw fath arall o deithio rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, oni bai ei fod yn hedfan yn agos at gapasiti llawn bob dydd, a fyddai, o ystyried y gostyngiad sylweddol mewn teithio ar gyfer busnes ers y pandemig, yn annhebygol iawn.

“Mae angen inni sicrhau mwy o ostyngiadau yn ein hallyriadau yn y degawd nesaf nag a gyflawnwyd gennym yn ystod y tri degawd diwethaf os ydym am osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd. Mae'n mynd i fod yn her aruthrol a bydd angen wynebu dewisiadau anodd,” ychwanegodd Lee Waters.

Mae Gweinidogion wedi penderfynu defnyddio'r £2.9m o gyllid a glustnodwyd ar gyfer y cyswllt awyr i gyflymu'r gwaith ar gysylltedd rhwng y gogledd a'r de o fewn rhaglen Metro Gogledd Cymru.

Mae hyn yn cynnwys cynnydd cyflymach ar Uwchgynllun Caergybi, Porth Bangor a Phorth Wrecsam, ochr yn ochr â gwaith tuag at ddatblygu gorsafoedd newydd ym Mrychdyn a Maes-glas.

Mae'r cynlluniau hefyd yn datblygu gwaith i wella amseroedd teithio a gwasanaeth ar y rheilffordd rhwng Caergybi a Chaerdydd a gwella integreiddio â dulliau teithio cynaliadwy eraill ar hyd y llwybr, er mwyn cyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pedwar trên yr awr ar Brif Linell Reilffordd Gogledd Cymru, a mynediad rheilffordd haws a chyflymach i dde Cymru.

Bydd y gwaith hefyd yn edrych ar opsiynau ar gyfer dyblu amlder y gwasanaeth bysiau rhwng Caernarfon a Phorthmadog, er mwyn gwella cysylltiadau â’r rheilffordd i’r de a’r canolbarth medd y llywodraeth.

'Siomedig'

Mae’r aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth AS, wedi mynegi ei siom am y newyddion, gan ddweud ei fod yn meddwl am y staff ffyddai'n colli eu gwaith o ganlyniad i'r penderfyniad.

Mewn datganiad, dywedodd: “Rydw i wedi dangos fy mod i yn realistig ynglŷn a’r heriau efo’r gwasanaeth awyr – y ffaith bod llai o bobl angen teithio ar gyfer busnes yn sgil y pandemig a’n pryder cynyddol am newid hinsawdd. 

"Ond, fy nghwestiwn i i’r Llywodraeth oedd: os nad yr awyren, yna beth fydd y Llywodraeth yn gynnig yn ei le, a lle fyddan nhw’n buddsoddi i sicrhau cysylltedd cyflymach rhwng y gogledd a’r de, drwy reilffordd yn arbennig? Yr ateb, yn amlwg, yw dim! 

“Dylai pob ceiniog o’r arian oedd yn cael ei wario ar yr awyren fynd ar wella cysylltedd trafnidiaeth de-gogledd, ond dyw’r ymrwymiad hwnnw ddim yma.  Mae hyn yn gic go iawn i ymdrechion i’n uno ni fel cenedl drwy’r system drafnidiaeth ac mi fydda i a Phlaid Cymru yn parhau i wneud yr achos dros hynny.” 

'Y penderfyniad cywir'

Wrth ymateb i'r penderfyniad, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Natasha Asghar AS, mai hwn oedd "y penderfyniad cywir i'w wneud" o gofio am bron i £3m o arian cyhoeddus oedd yn cael ei wario'n flynyddol ar y gwasanaeth.

"Er hynny, mae'n siomedig mai dim ond nawr mae gweinidogion Llafur wedi cael gwared ar y cyswllt awyr. Yn hytrach na gwastraffu rhyw £10m ar y cyswllt awyr, sydd heb fod yn weithredol ers dechrau'r pandemig, dros y tair blynedd diwethaf fe ddylie nhw fod wedi cymryd penderfyniadau pendant a chael gwared ohono gan ei fod yn colli arian.

"Mae'n hanfodol fod gweinidogion Llafur nawr yn buddsoddi'n sylweddol mewn isadeiledd trafnidiaeth a chysylltiadau yng ngogledd Cymru a sicrhau nad yw'r bobl sydd wedi eu heffeithio gan y penderfyniad ar eu colled."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.