Newyddion S4C

Teyrnged i fenyw 'ofalgar a chariadus' fu farw mewn gwrthdrawiad ger Rhaglan

08/06/2022
Teyrnged Rhaglan

Mae teulu menyw fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A4o yn Rhaglan ar 2 Mehefin wedi rhoi teyrnged iddi.

Roedd Rebecca Comins yn 52 ac yn dod o Gil-y-coed.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 19:20 rhwng beic a fan Vauxhall Movano wen.

Aeth parafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru i’r lleoliad a chadarnhau bod Mrs Comins wedi marw.

Mae ei theulu yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

Cafodd dyn 47 oed o’r Fenni ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru diofal cyn cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

Mewn teyrnged i Mrs Comins, dywedodd ei theulu ei bod yn "wraig ofalgar a chariadus i Stephen ac yn fam anhygoel i George a Millie.

“Gofynnwn i bobl barchu ein preifatrwydd ar yr adeg drist hon a gadael i ni alaru fel teulu.”

Mae apêl Heddlu Gwent am dystion yn parhau, a gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth neu luniau camera car o’r A40 rhwng 7pm a 7.30pm gysylltu â nhw drwy ffonio 101 neu anfon neges gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200184652.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.