Pris llenwi car gyda phetrol 'ar fin cyrraedd £100'

Mae disgwyl i'r gost o lenwi car gyda phetrol gyrraedd dros £100 wrth i brisiau gynyddu unwaith eto.
Yn ôl yr RAC, mae cost petrol wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn un diwrnod ers 17 o flynyddoedd, ar ôl i brisiau gynyddu eto o 2c y litr ddydd Mawrth.
Erbyn hyn, mae'n costio £99.40 ar gyfartaledd i lenwi tanc car gyda phetrol ond mae'n bosib y bydd prisiau yn cyrraedd y garreg filltir o £100 y tanc erbyn dydd Iau.
Daw hyn wrth i'r archfarchnad Asda godi pris tanwydd o 5c y litr. Mae disgwyl i archfarchnadoedd eraill dilyn yr un cam yn y dyddiau nesaf.
Darllenwch fwy yma.