Dim ond 2,000 o docynnau ar gael i gefnogwyr Cymru yng ngemau Cwpan y Byd
Dim ond 2,000 o docynnau ar gael i gefnogwyr Cymru yng ngemau Cwpan y Byd
Dim ond 2,000 o docynnau fydd ar gael i gefnogwyr Cymru ar gyfer gemau'r tîm yng Nghwpan y Byd, yn ôl Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Bydd Cymru yn chwarae pob un o'i gemau yn rownd gyntaf y bencwmpwriaeth yn stadiwm Al Rayyan, sydd â digon o le ar gyfer 40,000 o gefnogwyr.
Gan mai Cymru yw'r wlad olaf i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, fe fydd sawl her, wrth i'r cefnogwyr sy'n awyddus i deithio draw i Qatar geisio prynu tocynnau awyren yn ogystal â llety.
Ac wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Noel Mooney fod protocolau FIFA yn golygu y bydd Cymru ond yn derbyn tocynnau ar gyfer 5% o'r stadiwm.
"Nawr mae'n rhaid i ni ystyried y manylion gweithredol," meddai.
"Yn bendant dyden ni ddim yn credu fod gynnon ni ddigon o docynnau ar gyfer y gemau. Dyw e ddim yn ganran uchel - dwi'n credu mai cwpwl o filoedd ydy e "
"Ma'n rhaid meddwl am lety, ac mae 31 o dimau eraill wedi cymhwyso cyn Cymru. Ond 'den ni eisoes mewn trafodaethau gyda FIFA. Ryden ni wedi bod ers cyn naw o'r gloch fore Llun."
"Erbyn diwedd yr wythnos, ry'n ni'n gobeithio y bydd gennym fwy o fanylion am hediadau, llety ac yn y blaen."
Mae cynnal y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn y Dwyrain Canol eisoes wedi codi nifer o broblemau, gan gynnwys symud y bencampwriaeth i'r gaeaf oherwydd tymheredd uchel a phryderon dros record hawliau dynol Qatar.
Dywedodd Noel Mooney ei fod e wedi ei synnu pan glywodd am y tro cyntaf taw Qatar oedd wedi ei dewis.
" Mae'n wlad fach. Byddwn ni nawr yn gweithio gydag UEFA yn agos iawn."
"Mae yna grŵp sydd â chynrychiolwyr o Norwy, yr Isdeldiroedd, yr Almaen a Lloegr sy'n gweithio'n benodol gydag uwch gyngor Qatar. Mae yna nifer o bethau yn cael eu trafod ym maes hawliau dynol."
"Byddwn ni bellach yn ymuno â'r grŵp hwnnw, a byddwn ni'n trosglwyddo ein pryderon i Qatar ac yn ei ddefnyddio fel platfform i geisio gwella amodau byw yno. "