Newyddion S4C

ASau Ceidwadol yn pleidleisio ar ddyfodol Boris Johnson

06/06/2022

ASau Ceidwadol yn pleidleisio ar ddyfodol Boris Johnson

Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol yn pleidleisio ar ddyfodol Boris Johnson, wedi i'r Prif Weinidog eu hannerch brynhawn Llun.

Mae Mr Johnson yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder gan yr Aelodau Seneddol Ceidwadol.

Mae cadeirydd pwyllgor y meinciau cefn Ceidwadol, Syr Graham Brady, wedi cyhoeddi ei fod wedi derbyn y nifer o lythyron sydd ei angen arno i alw pleidlais.

Roedd angen 54 o lythyron gan Aelodau Seneddol Ceidwadol i gael eu cyflwyno i gadeirydd y Pwyllgor 1922 er mwyn cynnal y bleidlais.

Daw’r bleidlais wedi i adroddiad y gwas sifil blaenllaw Sue Gray i bartïon yn Downing Street gael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi derbyn dirwy gan Heddlu’r Met am fynychu digwyddiad ar ei ben-blwydd ym mis Mehefin 2020 – pan nad oedd hynny’n cael ei ganiatáu.

Mae nifer o ASau Ceidwadol eisoes wedi galw yn gyhoeddus ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo ers cyhoeddi'r adroddiad.

Image
Boris Johnson - Adroddiad Cabinet.jpg
Boris Johnson mewn digwyddiad i ddathlu ei ben-blwydd ym mis Mehefin 2020. 
Llun: Adroddiad Swyddfa'r Cabinet.

Yn ystod dathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines dros y penwythnos, fe wynebodd Boris Johnson fwian gan aelodau’r cyhoedd wrth iddo gyrraedd digwyddiad yn Eglwys Gadeiriol St Paul’s yn Llundain.

Cafodd Boris Johnson ei benodi’n Brif Weinidog yn 2019, gan guro Jeremy Hunt mewn pleidlais ymhlith aelodau’r blaid Geidwadol.

Mae Jeremy Hunt eisioes wedi datgan na fydd yn cefnogi Boris Johnson yn y bleidlais nos Lun . Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn Yr Alban, Douglas Ross hefyd wedi dweud y bydd yn pleidleisio yn erbyn y Prif Weinidog.

Nid dyma’r tro cyntaf i Brif Weinidog wynebu pleidlais ar ddyfodol ei arweinyddiaeth.

Fe wynebodd Theresa May bleidlais o hyder yn ei harweinyddiaeth yn 2019, ond roedd y mwyafrif o Aelodau Seneddol Ceidwadol bryd hynny yn ei chefnogi.

Serch hynny, chwe mis yn ddiweddarach fe ymddiswyddodd Theresa May ar ôl methu â chael digon o gefnogaeth ar gyfer ei chynllun Brexit.

Bydd y bleidlais o ddiffyg hyder yn Boris Johnson yn cael ei chynnal rhwng 18:00 a 20:00. Mae disgwyl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi tua 21:00.  

Llun: Rhif 10/Flickr

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.