Cefnogaeth i ofalwyr di-dâl i helpu gyda chostau byw
Bydd gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn gallu cael cymorth gan gynllun i’w helpu i brynu eitemau hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw.
Bydd gofalwyr sy’n gofalu am oedolyn neu blentyn anabl yn gallu gwneud cais am grant hyd at £300 i dalu am fwyd, eitemau i’r cartref ac eitemau electronig.
Mae gwasanaethau cymorth, megis cwnsela, cyngor ariannol, llesiant, a chymorth gan gyfeillion hefyd ar gael.
Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad gwerth £4.5m yn y Gronfa Gymorth i Ofalwyr gan Lywodraeth Cymru yn ystod y tair blynedd ariannol nesaf, wedi ei rannu’n £1.5m bob blwyddyn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru; “Gall fod yn hynod anodd i ofalwyr dalu costau gofal di-dâl oherwydd biliau ynni uchel i gadw eu cartrefi’n gynnes, costau teithio i apwyntiadau ysbyty, a chostau prynu offer arbenigol neu gadw at ofynion dietegol.”
Cafodd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr ei sefydlu ym mis Hydref 2020 yn sgil tystiolaeth gynyddol o ba mor anodd oedd hi i ofalwyr di-dâl ymdopi ag effeithiau ariannol y pandemig.Roedd £1m wedi ei rhoi i sefydlu'r gronfa.
Cafodd £1.4m ychwanegol ei neilltuo'r flwyddyn ganlynol, gyda thros 10,000 o ofalwyr di-dâl sydd ar incwm isel yn manteisio ar y gronfa ers iddi gael ei lansio.
Diwygio gofal cymdeithasol
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd y gronfa newydd yn helpu i weithredu cynlluniau ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol, drwy “ddiogelu a datblygu gwasanaethau ar gyfer grŵp agored i niwed.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Does dim ffordd o fesur y cyfraniad enfawr y mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn ei wneud i wella iechyd, llesiant, diogelwch, ac ansawdd bywyd y rheini y maen nhw’n gofalu amdanynt. Ar yr un pryd maen nhw’n lleihau’n sylweddol y baich ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol."
Dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: “Mae’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr eisoes wedi cyrraedd dros 10,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru drwy grantiau a gwasanaethau sy’n eu helpu i ymdopi bob dydd."