Newyddion S4C

O leiaf pedwar wedi marw mewn damwain rheilffordd yn yr Almaen

Metro 03/06/2022
S4C

Mae o leiaf pedwar o bobl wedi marw a thua 60 wedi eu hanafu mewn damwain rheilffordd yn yr Almaen.

Disgynnodd y trên oddi ar y rheilffordd yn nhalaith de-ddwyreiniol Bafaria.

Mae 16 o’r bobl gafodd eu hanafu mewn cyflwr difrifol.

Roedd y trên, a oedd yn cludo llawer o fyfyrwyr, yn mynd i Munich pan ddisgynnodd rhan o’r trên oddi ar y cledrau ger Garmisch-Partenkirchen.

Dyw hi ddim yn glir beth achosodd y ddamwain, meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Darllenwch y stori'n llawn yma. 
 

Llun: Wotchit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.