Boris Johnson 'wedi ei synnu' i dderbyn dirwy am barti yn Downing Street

Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud ei fod "wedi ei synnu" i dderbyn dirwy am fynychu parti yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.
Roedd Mr Johnson yn siarad â sylfaenydd Mumsnet Justine Roberts pan ddywedodd fod y digwyddiad yn "teimlo fel digwyddiad gwaith" iddo fe.
Wedi i adroddiad y gweithiwr sifil blaenllaw Sue Gray i gael ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn "cymryd cyfrifoldeb" a bod y llywodraeth wedi "dysgu gwers".
Dywedodd wrth wefan Mumsnet yn ystod y cyfweliad fod y digwyddiad ar ei ben-blwydd a gafodd ddirwy amdano yn "ddigwyddiad diflas".
Darllenwch fwy yma.
Llun: Adroddiad Swyddfa'r Cabinet