
Aelodau teulu wedi eu gwahanu ar ôl i hediad o Gaerdydd gael ei ganslo

Aelodau teulu wedi eu gwahanu ar ôl i hediad o Gaerdydd gael ei ganslo
Mae aelodau teulu oedd wedi cynllunio taith ar wyliau gyda'i gilydd wedi cael eu gwahanu yn sgil problemau diweddar ym maes awyr Caerdydd.
Fe deithiodd Nadine a’i gŵr i Tenerife er mwyn rhoi ‘syrpreis’ i’w neiant a gweddil y teulu estynedig, a oedd ar awyren ym maes awyr Caerdydd ddydd mawrth yn barod i wneud y daith yno.
Ar ôl aros dros ddwy awr yn hirach na’r disgwyl yn y maes awyr, fe dreulion nhw awr arall yn eistedd ar yr awyren.
Daeth cyhoeddiad gan y peilot bod rhywbeth o’i le ar yr awyren, a’u bod yn aros am ddarn o offer i gyrraedd.
Yn y cyfamser, fe gafodd e-byst gan y cwmni awyrennau Tui eu hanfon i ffonau symudol y teithwyr, yn dweud wrthynt bod eu hediad wedi’i ganslo.
Mae’r teulu Marshall yn dal i fod yng Nghymru.
Ond yn dilyn eu profiadau nos Fawrth, daeth ychydig o newyddion da i’r teithwyr ddydd Mercher, ar ôl i Tui roi ad-daliad iddynt, yn ogystal â chyfle i ail-drefnu eu gwyliau.

Er gwaethaf yr ad-daliad, i Nadine a Richard Marshall, mae eu gwyliau “eisoes wedi cael ei ddifetha.”
Dywedodd bod y teulu wedi "colli amser, arian, a’r cyfle i fod gyda’u gilydd."
Mae Maes Awyr Caerdydd yn un o nifer o feysydd awyr sydd wedi gorfod canslo hediadau dros y dyddiau diwethaf.
Diswyddo gweithwyr yn ystod y pandemig, a phrofion llym wrth wirio cefndiroedd staff newydd sy'n bennaf yn gyfrifol am yr oedi mawr yn ôl abrenigwyr.
Gyda gŵyl banc estynedig ar y gorwel, mae nifer yn poeni mai parhau fydd y broblem.