Cwpan y Byd yn gyfle i ‘werthu Cymru ar lwyfan y byd’
Cwpan y Byd yn gyfle i ‘werthu Cymru ar lwyfan y byd’
Byddai cyrraedd Cwpan y Byd yn gyfle i “werthu Cymru ar lwyfan y byd”, yn ôl academydd blaenllaw.
Dywedodd Yr Athro Laura McAllister wrth Newyddion S4C fod y gêm ail-gyfle yn “bwynt critical” gan gynnig siawns i “rili sefydlu’r gêm yng Nghymru”.
“Yn sicr, mae’n golygu lot oherwydd dyna’r siawns i ni qualifio ar gyfer ein Cwpan y Byd cynta’ ers 1958 so mae’n achlysur arbennig i’r genedl,” meddai.
“A nid jyst ar y llwyfan chwaraeon neu y llwyfan pêl-droed oherwydd bydd lot o cyfleoedd i werthu Cymru i’r byd.”
Roedd Yr Athro McAllister yn chwarae pêl-droed i Gymru ei hun rhwng 1994 a 1998.
Dywedodd bod ymgyrch Euros 2016 carfan dynion Cymru, lle wnaeth y tîm gyrraedd rownd gynderfynol y bencampwriaeth, wedi rhoi hyder i’r garfan – ac i Gymru.
“Os chi’n meddwl ‘nôl i’r cyfnod cyn yr Euros yn 2016, ma’ ‘na lot o diffyg hyder yn y cenedl a ma’ ‘na lot o pobl sydd ddim yn cael yr hunan-cred i credu bod Cymru yn gallu cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol mewn unrhyw faes. Nid jyst ym maes pêl-droed neu ym maes chwaraeon,” meddai.
“Ac i fi, roedd yr Euros yn rhoi hwb i’r cenedl a rhoi rhyw fath o hunan-cred a hyder i ni fel cenedl i credu bod ni’n gallu cystadlu ar y llwyfan chwaraeon. Ond hefyd, cyfieithu rhan o’r profiad hwn ‘nôl i gwleidyddiaeth Cymru a ‘nôl i bob sector yng Nghymru,” ychwanegodd.
Tra bo rhai carfannau o’r wasg wedi disgrifio Cymru fel “underdogs” yn y gorffennol, mae’n label sydd wedi ei gwrth-ddweud yn ystod blynyddoedd diweddar yn ôl Laura McAllister.
“I ryw raddau ‘dan ni wedi colli’r label hwn erbyn hyn oherwydd ‘dyn ni wedi bod yn dau Euros back-to-back a ‘dan ni ar frig qualifio nawr ar gyfer Cwpan y Byd ac os chi’n astudio rankings FIFA ni yn y safle 18 ar y foment, so ‘dyn ni o flaen lot o gwledydd mawr,” meddai.
“So ‘dyn ni ddim yn "underdogs" a dwi ddim yn hoffi’r phrase “punching above our weight” ac yn y blaen oherwydd ‘dyn ni yn cenedl llwyddiannus ym myd pêl-droed a dyna’r siawns nawr nos Sul i sefydlu ein statws fel cenedl llwyddiannus pêl-droed.
“Ond hefyd gwerthu y concept o Cymru fel cenedl eitha’ bach ond hefyd cenedl modern, cenedl diverse a cenedl lle mae’r byd yn gallu gwneud busnes gyda hefyd.”
Llun: Laura McAllister