Newyddion S4C

Rhagor o oedi i deithwyr mewn nifer o feysydd awyr ar hyd y DU

Mirror 01/06/2022
maes awyr

Mae teithwyr mewn nifer o feysydd awyr ar hyd y DU wedi gorfod wynebu oedi pellach wrth geisio hedfan ar wyliau ddydd Mercher.

Bu oedi hir ym meysydd awyr Glasgow, Leeds, Manceinion a Bryste wedi i gwmnïau ganslo rhagor o hediadau.

Bu oedi hir i deithwyr ym meysydd awyr Heathrow, Stansted, Bryste a Manceinion ddydd Mawrth wrth i gwmnïau teithio geisio ymdopi gyda chynnydd mewn niferoedd teithwyr ar ôl cyfnod y pandemig.

Yn ôl yr undebau sydd yn cynrychioli gweithwyr y diwydiant teithio, diswyddiadau o ganlyniad i'r pandemig sydd yn rhannol gyfrifol am y problemau presennol, gan fod cymaint o weithwyr wedi colli eu gwaith fel bod bwlch amlwg yn ymddangos mewn gwasanaethau erbyn hyn.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.