Gwefan newydd Lingo360 i 'ehangu darpariaeth i ddysgwyr'
Mae cwmni Golwg wedi lansio gwefan newydd Lingo360 ddydd Mawrth.
Gobaith y wefan newydd yw i ehangu ar y ddarpariaeth sydd yn cael ei gynnig i ddysgwyr gan gwmni Golwg.
Bydd Lingo Newydd yn cynnig gofod ar-lein i ddarparu newyddion ac erthyglau yn benodol ar eu cyfer o dan yr enw Lingo360.
Bydd y wefan yn gyfle i roi mwy o ffocws ar y rhai sy’n dysgu’r iaith.
Yn ogystal fe fydd nifer o eitemau eraill a chwisiau lle bydd cyfle i bobl ymarfer eu hiaith.
Mae'r darparwyr hefyd yn gobeithio apelio at bobl sy’n dychwelyd at y Gymraeg ar ôl cyfnod heb ddefnyddio'r iaith, neu rhai sydd ddim yn teimlo’n hyderus iawn yn darllen eitemau yn y Gymraeg.
Dywedodd Alun Rhys Chivers, golygydd golwg360: “Mae hi’n amlwg ers tro bod galw cynyddol am gynnwys i ddysgwyr, ac felly rydym yn falch iawn o gyflwyno gwefan newydd Lingo360, a fydd yn rhan ganolog o ddarpariaeth y cwmni, yn enwedig ar benwythnosau.
"Ein bwriad wrth gyflwyno gwefan Lingo360 yw helpu dysgwyr a siaradwyr Cymraeg llai hyderus ar eu taith tuag at ddod yn rhugl, gyda geirfa i’w helpu i ddarllen ‘Newyddion yr Wythnos’ ac amrywiaeth o erthyglau nodwedd.
“Gobeithio bod rhywbeth at ddant pawb,” ychwanegodd.