Disgwyl cyhoeddi enillydd Dinas Diwylliant y DU 2025
Mae disgwyl i enillydd Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025 gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Mae Wrecsam yn un o bedwar ymgeisydd sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dinas Diwylliant y DU 2025.
Mae Bradford, Sir Durham, Southampton hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Os yn llwyddiannus, Wrecsam fyddai’r gyntaf yng Nghymru i ennill y wobr.
Mae’r teitl yn cael ei gynnig bob pedair blynedd. Ac mae wedi dod â £172 miliwn i'r enillydd diwethaf, Coventry, yn ôl Llywodraeth Y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Cymru, Dawn Bowden: “Rwy’n falch iawn bod Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cyrraedd rhestr Dinas Diwylliant y DU 2025.
“Mae gennym ni ddiwylliant unigryw a rhyfeddol yma yng Nghymru, ac rydyn ni i gyd yn hynod falch ohono. Rwyf am i'r byd wybod pa mor rhyfeddol ydyw hefyd!
“Byddai cael ei henwi’n Ddinas Diwylliant y DU 2025 yn wirioneddol drawsnewidiol i Wrecsam, a byddai’n hwb gwirioneddol wrth inni edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair, mwy llewyrchus.
“Llongyfarchiadau i bawb yn Team Wrecsam, a phob lwc ar gyfer camau nesaf y gystadleuaeth!”
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn fyw ar raglen y One Show ar BBC One nos Fawrth.