Newyddiadurwr o Ffrainc wedi ei ladd yn Wcráin

30/05/2022
Wcrain

Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi cyhoeddi bod newyddiadurwr o Ffrainc wedi ei ladd yn Wcráin. 

Fe wnaeth Mr Macron ddatgan bod Frédéric Leclerc-Imhoff yn y wlad er mwyn gohebu ar "realiti rhyfel" ger dinas ddwyreiniol Severodonetsk.

Dywedodd yr Arlywydd ar Twitter bod y newyddiadurwr ar "fws dyngarol gyda phobl y wlad a oedd yn ceisio dianc rhag bomiau Rwsiaidd cyn cael ei saethu yn farw." 

Mae Severodonetsk yn ddinas hollbwysig wrth i luoedd Rwsia agosau at ei chyrion.

Mae Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelenskyy, eisioes wedi datgan bod ei wlad yn gwneud popeth o fewn ei gallu i atal Rwsia rhag hawlio'r ddinas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.