Teyrnged i fenyw fu farw mewn gwrthdrawiad bws yng Nghaerdydd
Mae teulu menyw fu farw mewn gwrthdrawiad gyda bws yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddi.
Roedd Sheri Omar yn 63 ac yn dod o ardal Adamsdown o'r brifddinas.
Wrth roi teyrnged iddi, fe ddywedodd ei theulu eu bod wedi eu dryllio gan ei marwolaeth a bod eu "calonnau wedi torri wrth i ni alaru am golled ein chwaer, modryb, a hen fodryb sydd wedi ein gadael mewn amgylchiadau mor drasig."
Mae'r teulu wedi diolch i aelodau o'r cyhoedd oedd yn bresennol yn ystod y digwyddiad ac oedd wedi cynnig cymorth ar y pryd.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd gyda lluniau dash-cam i gysylltu gyda swyddogion gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200178270.