Gweilch y pysgod yn dychwelyd i Lyn Brenig

Gweilch y pysgod yn dychwelyd i Lyn Brenig
Ar ôl i nyth i bâr o weilch y pysgod gael ei difrodi'n fwriadol llynedd ger Llyn Brenig ger Cerrigydrudion, mae'r adar prin wedi dychwelyd i ddodwy wyau yno unwaith eto.
Fe gafodd nyth ei hail-godi eleni, ar ôl i’r pâr fethu â magu y llynedd.
Mae’r pâr o weilch y pysgod wedi dychwelyd o’r Affrig i Lyn Brenig ac wedi dodwy tri ŵy mewn nyth bwrpasol gafodd ei chodi'n arbennig iddyn nhw.
Mae’r criw sy’n gyfrifol am edrych ar eu holau yn defnyddio pob math o dechnoleg i’w gwarchod
Dywedodd Graeme Cotterill o Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru: “Mae gyda ni ‘sentinels’ gan yr heddlu a gwirfoddolwyr sy’n gallu gwylio’r nyth o’u cartrefi neu ar y safle.”
Erbyn hyn mae tua phump neu chwech o barau swyddogol yn y gogledd a’r canolbarth a‘r gobaith yw bydd eu niferoedd yn codi eto.
Ni lwyddodd yr heddlu i ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol am y drosedd o ddymchwel y nythod, ac mae’r ymchwiliad bellach wedi dod i ben.