Chelsea yn cadarnhau gwerthiant y clwb pêl-droed

Mae Chelsea wedi cadarnhau gwerthiant y clwb pêl-droed i gonsortiwm dan arweiniad Todd Boehly o’r UDA.
Mewn datganiad dywedodd Chelsea y gallai’r cytundeb gael ei gwblhau erbyn dydd Llun.
Dywedodd perchennog presennol y clwb Roman Abramovich: "Mae’r tîm wedi gweithio’n galed i sicrhau’r perchennog cywir am y clwb fydd yn y lle gorau i arwain y clwb yn llwyddiannus.”
Yn ôl adroddiadau mae'r cytundeb yn werth £4.25 biliwn.
Darllenwch fwy yma.