Cymry'r West End yn aros i glywed eu tynged ar Britain's Got Talent
Mae perfformwyr Cymry’r West End yn aros i glywed a ydyn nhw wedi cyrraedd rowndiau cyn-derfynol y sioe deledu Britain’s Got Talent ar ITV.
Roedd criw'r Welsh of the West End wedi swyno’r gynulleidfa a’r beirniaid nos Sadwrn diwethaf trwy ganu eu haddasiad o'r gân From Now On o’r ffilm The Greatest Showman.
Roedd un o’r criw, Steffan Hughes, wedi disgrifio ymddangos ar Britain’s Got Talent fel “profiad swreal" wrth siarad â Newyddion S4C.
Mae’r criw wedi ffurfio ers dwy flynedd ac yn perfformio caneuon allan o sioeau cerdd adnabyddus fel Les Misérables, Phantom of the Opera a Wicked.
Ymysg y cantorion i berfformio fel rhan o Welsh of the West End gyda Steffan Rhys mae Sophie Evans, Luke McCall a Mared Williams.
Yn ystod y cyfnod clo roedd y criw yn perfformio ar-lein ac fe wnaethon nhw ddenu dros 15 miliwn o wylwyr.
Yn gynharach eleni roedd y criw yn perfformio yn y Royal Albert Hall gyda Syr Bryn Terfel a Cherddorfa Gyngerdd y BBC.