Newyddion S4C

'Profiad swreal’ i Gymry’r West End ar Britain’s Got Talent

22/05/2022

'Profiad swreal’ i Gymry’r West End ar Britain’s Got Talent

Mae un o berfformwyr Cymry’r West End wedi disgrifio ymddangos ar Britain’s Got Talent ar ITV nos Sadwrn fel “profiad swreal."

Dywedodd Steffan Hughes wrth Newyddion S4C ei fod wedi bod yn anodd cadw’r gyfrinach mor hir ers recordio’r rhaglen.

Roedd Steffan yn aelod o griw'r Welsh of the West End a swynodd y gynulleidfa a’r beirniaid trwy ganu eu haddasiad o'r gân From Now On o’r ffilm The Greatest Showman.

Mae’r criw wedi ffurfio ers dwy flynedd ac yn perfformio caneuon allan o sioeau cerdd adnabyddus fel Les Misérables, Phantom of the Opera a Wicked.

Ymysg y cantorion i berfformio fel rhan o Welsh of the West End gyda Steffan Rhys mae Sophie Evans, Luke McCall a Mared Williams.

Yn ystod y cyfnod clo roedd y criw yn perfformio ar-lein ac fe wnaethon nhw ddenu dros 15 miliwn o wylwyr.

Yn gynharach eleni roedd y criw yn perfformio yn y Royal Albert Hall gyda Syr Bryn Terfel a Cherddorfa Gyngerdd y BBC.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.