Texas: Gŵr yn marw ddeuddydd ar ôl i'w wraig gael ei lladd mewn ymosodiad ar ysgol

Mae gŵr wedi marw ddeuddydd ar ôl i'w wraig gael ei lladd mewn ymosodiad ar ysgol gynradd yn Texas yn yr Unol Daleithiau.
Bu farw Irma Garcia, 46, wrth amddiffyn disgyblion rhag dyn 18 oed wrth iddo ymosod ar Ysgol Gynradd Robb yn ninas Ulvade gyda gwn.
Bellach mae ei gŵr, Guadalupe 'Joe' Garcia, wedi marw o drawiad ar y galon dim ond 48 awr ar ôl yr ymosodiad.
Roedd y cwpwl wedi bod yn briod ers 30 mlynedd wedi iddynt gwrdd yn yr ysgol uwchradd ac maen nhw'n gadael pedwar o blant.
Dywedodd nai Mr Garcia ei fod yn sicr bod ei ewythr wedi marw ar ôl i'w "galon dorri" yn dilyn marwolaeth ei wraig.
Darllenwch fwy yma.
Llun: GoFundMe