Newyddion S4C

Diwylliant Downing Street wedi dod yn 'broblem fawr' yn y blynyddoedd diwethaf

Diwylliant Downing Street wedi dod yn 'broblem fawr' yn y blynyddoedd diwethaf

NS4C 25/05/2022

Mae diwylliant Downing Street wedi dod yn "problem mawr" yn y blynyddoedd diwethaf, yn ôl cyn-ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Daw sylwadau Sian Jones wedi i'r gweithiwr sifil blaenllaw Sue Gray gyhoeddi adroddiad hir-ddisgwyliedig ddydd Mercher i bartïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.

Roedd Sian Jones yn gweithio fel Ymgynghorydd Arbennig i Philip Hammond pan oedd yntau'n Ysgrifennydd Trafnidiaeth ac Ysgrifennydd Amddiffyn.

Dywedodd wrth Newyddion S4C nad oedd yn meddwl y byddai'r ymddygiad sy'n cael ei ddisgrifio yn yr adroddiad yn digwydd dan arweiniad prif weinidog blaenorol.

Mae hi hefyd yn dweud nad oedd diwylliant yfed difrifol yn Downing Street yn y gorffennol.

Dywedodd Sian Jones: "Mae Sue Gray yn ofalus i ddweud bod digwyddiadau yn Stryd Downing ddim yn cynrychioli diwylliant cyffredinol yn y gwasanaeth sifil ac yn y gorffennol, byddwn yn dweud nad oedd diwylliant yfed difrifol yn Stryd Downing. 

"Ond mae'n amlwg fod y diwylliant wedi newid llawer yn y blynyddoedd diwethaf ac dwi'n meddwl bod problem mawr yw e," meddai.

'Atal y digwyddiadau hyn'

Mae'r cyn-ymgynghorydd sydd bellach yn gweithio i gwmni cyfathrebu strategaethol yn dweud y bydd y cynnwys yn "anghyfforddus" i Boris Johnson.

"Mae llawer o fanylion embaras yn yr adroddiad hwn. Mae gwin ar y waliau, pobl yn ymladd, pobl yn chwydu, pobl yn angharedig i glanhawyr a dwi'n meddwl bod yr adroddiad mynd i wneud i'r prif weinidog yn teimlo yn anghyfforddus iawn," meddai.

Fe ddaeth yr adroddiad i'r casgliad fod hi'n amlwg "na ddylai nifer o'r digwyddiadau hyn fod wedi gallu digwydd".

Ond nid oes unrhyw beth yn yr adroddiad sydd yn arbennig o ddamniol i'r Prif Weinidog, yn ôl Sian Jones.

"Dydw i ddim yn meddwl bod yr adroddiad hwn yn smoking gun i Boris Johnson. Mae lluniau o'i parti pen-blwydd er enghraifft yn eithaf diflas rili.  

"Ond mae angen iddo fe ddangos ei fod yn gallu cyflawni amcanion y llywodraeth fel costau byw nawr ac mae angen iddo fe ddangos ei fod wedi cymryd camau i atal y digwyddiadau hyn rhag digwydd eto."

Llun: Rhif 10 Downing Street

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.