Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth menyw yng Nghasnewydd
25/05/2022
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi fod swyddogion yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth ar ôl i gorff menyw 79 oed gael ei ddarganfod mewn eiddo ym Metws, Casnewydd ddydd Mawrth.
Aeth parafeddygon i'r eiddo gan gadarnhau'r farwolaeth yn y fan a'r lle.
Mae teulu'r fenyw wedi cael eu hysbysu am y farwolaeth ac mae swyddogion arbenigol yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw.
Mae dyn 51 oed o Gasnewydd wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200173266.