Newyddion S4C

Dyn wedi marw yn dilyn ymosodiad gan gi yn Wrecsam

23/05/2022

Dyn wedi marw yn dilyn ymosodiad gan gi yn Wrecsam

Mae dyn 62 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad gan gi yn Wrecsam. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r cyfeiriad ar Ffordd Holt fore ddydd Llun. 

Bu farw'r dyn ar ôl dioddef trawiad ar y galon wedi iddo gael ei frathu gan y ci, sydd bellach wedi'i ddinistrio gan filfeddyg. 

Mae sawl ci arall hefyd wedi'u cymryd o'r cartref ac yn cael eu cadw wrth i ymchwiliadau barhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.