O Landybie i'r Ddinas Ddur: Y Gymraes sydd yn faeres newydd ar Sheffield
O Landybie i'r Ddinas Ddur: Y Gymraes sydd yn faeres newydd ar Sheffield
Ddydd Iau, fe gafodd Sioned-Mair Richards, sydd o Landybie yn wreiddiol, ei hethol fel Arglwydd Faer newydd Sheffield.
Fe symudodd Sioned i Sheffield 21 o flynyddoedd yn ôl er mwyn byw gyda ei gŵr, Howard.
Mae hi'n parhau i fyw yn y ddinas hyd heddiw gyda ei mab, Dan, ac er ei bod hi wedi hanner ymddeol, mae hi'n parhau i weithio fel cynghorydd ac wedi bod ynghlwm â llywodraeth leol am dros 40 o flynyddoedd.
'Agosach at y bobl'
Yn ôl Sioned, mae llywodraeth leol yn hanfodol gan ei fod o'n "agosach at y bobl. Y pethe bach 'yn ni'n neud sy'n neud bywyd i gwitho. Pethe fel y bins, addysg sy'n peth mowr, edrych ar ôl oedolion, popeth sy'n neud bywyd yn well o ddydd i ddydd.
"Smo ni'n neud polisi dros tramor neu rwbeth fel 'ny ond os nag yw'r bins wedi gal'u neud, 'na beth sy'n achosi bobl i fod yn grac iawn."
Wrth gael ei hanrhydeddu fel yr Arglwydd Faer newydd, fe wnaeth Sioned dyngu llw yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac er ei bod wedi bod yn byw yn Sheffield am 21 mlynedd, mae ei gwreiddiau Cymraeg mor bwysig ag erioed.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Sai'n teimlo bod y Saeson yn gwbod lot am y diwylliant Cymraeg a 'na pam odd e'n bwysig i fi i neud yr oath yn Gymraeg ac yn Saesneg i ddangos bod diwylliant arall gyda fi, nid dim ond bo' fi'n dod o Prydain, a bod y Gymraeg yn bwysig i fi o hyd.
Ymgyrchu er cof am ei gŵr
Fe wnaeth ei gŵr, a oedd yn gynghorydd yn y ddinas rhwng 1978 ac 1993, farw ddwy flynedd yn ôl mewn Uned Gofal Lliniarol yn un o ysbytai y ddinas, ac er ei fod wedi cael gofal arbenning, roedd yr adeilad angen tipyn o weddnewidiad medd Sioned.
"Buodd Howard, fy ngŵr, wedi marw. Roedd e dim ond yn chwech wthnos bod ni'n gal gwbod bod y cancr arna fe i bryd odd e'n marw ag er bod y gofal yn dda iawn, roedd yr ystafelloedd yn yr uned 'na ddim cystal â dylen nhw fod.
"Felly, o'n i wedi promisio i Howard byddai yn mynd ar ymgyrch i gal arian i ail-neud yr uned, ond wedyn dath Covid ag o'dd ni ffaelu neud dim byd. Ond nawr bod fi'n maer, fi'n gallu gweud wrthe fe na beth fi'n mynd i'w neud y blwyddyn hyn, Howard, yw codi arian er côf i ti ag i helpu pobl eraill."