Newyddion S4C

Awyr iach a byd natur 'mor bwysig' i iechyd meddwl

20/05/2022

Awyr iach a byd natur 'mor bwysig' i iechyd meddwl

Mae'r nifer o bobl sy'n gweld y pwysigrwydd o dreulio amser ymysg bywyd gwyllt, natur ac awyr iach ar gyfer eu hiechyd meddwl yn tyfu, yn ôl un hyfforddwr bywyd. 

Mae Leah Davies yn gweithio gyda phobl i wella eu hiechyd meddwl a chorfforol, ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda gwasanaethau dibyniaeth cyffuriau ac alcohol.

Ers wyth mlynedd, mae Leah wedi bod yn cynnal sesiynnau gyda chwmni 'Fresh Air Fridays.' 

Nod Fresh Air Fridays yw i helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl a straen bywyd, trwy gynnal sesiynau meddylgarwch yn yr awyr agored. 

Mae'r sesiynau misol yn cynnwys teithiau cerdded, ymarferion anadlu a myfyrio. 

Yn ôl Leah, ers y pandemig, mae mwy o bobl nag erioed wedi dangos diddordeb yn y sesiynau. 

"Ers y pandemig, dwi wedi gweld bod pobl rili eisiau cysylltu mwy gyda natur," meddai. 

"Mae'r sesiynnau yma yn helpu pobl i beidio teimlo'n unig, dwi meddwl mae pawb ar y foment eisiau cymuned o ryw fath." 

"Mae'n ffordd i bobl ddod gyda'i gilydd a dwi meddwl mwy nag unrhyw bryd o'r blaen ni eisiau ein gilydd, ni eisiau cysylltu eto."

Image
Leah Davies
Mae Leah Davies yn credu bod rhaid trin iechyd corfforol ac iechyd meddwl gyda'i gilydd.

'Iechyd meddwl holistig'

Mae Leah yn ceisio hybu ffordd "holistig" o drin iechyd meddwl gyda'r sesiynau, gan gyfuno iechyd corfforol a meddyliol. 

Mae'r dull hwn wedi denu sylw nifer o gwmnïau, sydd am gynnal sesiynau ar gyfer eu gweithwyr wrth iddynt ddychwelyd i'r swyddfa yn sgil y pandemig. 

"Ers y pandemig, mae pawb wedi bod yn gweithio ar wahân yn y tŷ," meddai.

"Ac ma nhw'n edrych am ffyrdd o ddod a pobl gyda'u gilydd ac achos fod y sesiynau tu fas mae pobl yn ymlacio fwy.

"Mae'n wahanol na pan 'ych chi mewn training room, sy' dal yn teimlo fel gwaith, ond unwaith chi cael pobl tu fas mae nhw rili yn ymlacio." 

Mae gan Leah brofiad personol o'r budd sydd yn dod o'r sesiynau. 

Yn 2014, bu farw ei brawd a chwaer wedi iddynt dioddef problemau gyda'u hiechyd meddwl a dibyniaeth ar alcohol. 

Roedd yn gyfnod anodd i Leah, ond dywedodd fod sesiynau Fresh Air Fridays wedi ei helpu, gan ysbrydoli gyrfa newydd. 

"Jyst y teimlad o bod tu fas, a cysylltu gyda natur a gweld y byd o gwmpas fi, oedd e'n rili comforting.

"O'dd e'n rili rili helpful i fi neud hwnna, a dwi'n gweld e gyda pobl dwi'n gweithio gyda." 

Mae Leah yn teimlo bod y sesiynau y mae hi yn ei gynnal yn gallu helpu pobl sydd yn mynd trwy'r un problemau a gafodd ei brawd a'i chwaer. 

Llun: Leah Davies

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.