Newyddion S4C

David Tennant + Catherine Tate

Doctor Who: Ffilmio'n dechrau ar gyfnod newydd Russell T Davies wrth y llyw

NS4C 17/05/2022

Fe ddechreuodd cyfnod y Cymro Russell T Davies wrth y llyw ar gyfres Doctor Who yn swyddogol ddydd Llun wrth i ffilmio ddechrau yn Llundain.

Dyma'r tro cyntaf i'r awdur o Abertawe gymryd yr awenau fel prif awdur y gyfres ers 2010.

Roedd David Tennant a Catherine Tate i'w gweld yn ffilmio ar gyfer y gyfres yn Camden, wedi cyhoeddiad nos Sul y byddai'r ddau yn dychwelyd i'r gyfres y flwyddyn nesaf ar gyfer dathliadau Doctor Who yn 60 oed.

Fel arfer, mae'r gyfres yn cael ei ffilmio yng Nghaerdydd ac mae cwmni cynhyrchu o Gymru, Bad Wolf Studios am fod yn cynhyrchu'r gyfres o'r flwyddyn nesaf.

Daw'r cyfnod diweddaraf o ffilmio yn dilyn cyhoeddiad y bydd seren Sex Education, Ncuti Gatwa yn ymuno â'r gyfres fel y Doctor nesaf.

Fe fydd Doctor Who yn dychwelyd am un bennod olaf sy'n cynnwys Jodie Whittaker yn y rôl, cyn i benodau wedi eu hysgrifennu gan Russell T Davies ddechrau o'r flwyddyn nesaf.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.