Newyddion S4C

S4C

Lluoedd Israel yn saethu nwy dagrau at alarwyr yn angladd Shireen Abu Akleh

Al Jazeera 13/05/2022

Mae lluoedd Israel wedi saethu nwy dagrau at bobl oedd yn mynychu angladd y newyddiadurwraig Shireen Abu Akleh, fu farw ddydd Mercher. 

Yn ôl tystion a gweinidogaeth iechyd Palestina, bu farw Abu Akleh ar ôl cael ei saethu gan filwyr Israel mewn cyrch wrth ohebu i Al-Jazeera yn nhref Jenin ar y Llain Orllewinol.

Mae miloedd yn Palestina ac ar draws y Dwyrain Canol wedi mynegi eu dicter dros farwolaeth y newyddiadurwraig 51 oed. 

Yn ystod ei hangladd yn Jerwsalem ddydd Gwener, fe wnaeth milwyr ymosod ar alarwyr wrth iddynt gario corff Abu Akleh drwy'r strydoedd. 

Daw'r ymosodiad wedi i luoedd amddiffyn Israel, yr IDF, ryddhau canlyniadau cychwynnol eu hymchwiliad i'r digwyddiad gan nodi nad yw'n bosib cadarnhau pwy laddodd Abu Akleh ond mae'n bosib mai milwyr o luoedd Israel oedd yn gyfrifol. 

Darllenwch fwy yma. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.