Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A449 yn Sir Fynwy ddydd Iau diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Sean Buffin yn 49 oed ac yn dod o Lynebwy.
Digwyddodd y ddamwain rhwng cerbyd Vauxhall Astra du a lori, a bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu eu bod wedi eu "syfrdanu a'u tristhau yn dilyn marwolaeth ein mab annwyl a'n brawd, Sean.
"Roedd o'n gawr mawr cyfeillgar ac roedd ganddo amser i bawb bob amser. Mae'n gadael gwagle mawr ym mywyd pawb oedd yn ei adnabod a'i garu a does dim geiriau i egluro cymaint y byddwn yn ei fethu."
Mae'r heddlu yn parhau â'u hymholiadau ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad ar yr A449 rhwng 05:15 a 05:45 bore Iau, 5 Mai.
Maent yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu dros y we neu ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200148254.