Newyddion S4C

Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn derbyn dirwy gan FIFA

13/05/2022
Cymru yn erbyn Awstria / Asiantaeth Huw Evans

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi derbyn dirwy gan FIFA yn ymwneud ag ymddygiad annerbyniol rhai o'u cefnogwyr wedi iddynt ddefnyddio tân gwyllt yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Awstria. 

Mae'r Gymdeithas wedi derbyn y ddirwy ac yn atgoffa cefnogwyr sy'n mynychu unrhyw gêm bod tân gwyllt yn beryglus i gefnogwyr, chwaraewyr a dyfarnwyr. 

Yn sgil y Ddeddf Digwyddiadau Chwaraeon 1985, mae dod ag unrhyw ddyfais tân gwyllt i gêm bêl-droed yn drosedd, a gall unrhyw berson sy'n cyflawni trosedd o'r fath gael eu harestio a'u gwahardd rhag mynychu gemau pêl-droed.

Mewn datganiad, dywedodd y Gymdeithas y byddant yn gweithio yn agos gyda Stadiwm Dinas Caerdydd er mwyn sicrhau nad oes digwyddiad o'r fath yn digwydd yng ngemau rhyngwladol mis Mehefin, yn ogystal â rhoi gwybod i'r awdurdodau perthnasol pe bai hyn yn digwydd eto.

Bydd Cymru yn chwarae yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn naill ai'r Alban neu Wcráin ar 5 Mehefin.  

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.