Deborah James, cyflwynydd podlediad, yn cael ei hanrhydeddu gan y Frenhines
Mae Deborah James, cyflwynydd y podlediad You, Me and the Big C, wedi cael ei hanrhydeddu gan y Frenhines ychydig ddyddiau ar ôl datgelu ei bod yn derbyn gofal diwedd oes ar gyfer canser y coluddyn.
Dywedodd y Fonesig Deborah James ei bod “wedi dychryn ac yn crio” wedi iddi dderbyn y fath anrhydedd.
Mae’r fam i ddau wedi codi mwy na £3.7m ers dydd Llun, pan gyhoeddodd ei bod wedi rhoi’r gorau i gael triniaeth.
Mae hi'n treulio'r amser sy'n weddill ganddi yng nghartref ei rhieni, gyda'i theulu.
Mae anrhydeddau o’r fath fel arfer yn cael eu cyhoeddi fel rhan o Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd neu Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Ond, mewn amgylchiadau eithriadol, mae rhai yn cael eu cyhoeddi ar adegau eraill o’r flwyddyn.
Mewn datganiad i’r wasg nos Iau, fe gadarnhaodd Downing Street yr anrhydedd.
Dywedodd: “Mae’r Frenhines yn falch o gymeradwyo bod yr anrhydedd yn cael ei rhoi i'r Fonesig Deborah James.”
Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson: "Os bu erioed anrhydedd yn gwbl haeddiannol, dyma fe.
"Mae Deborah wedi bod yn ysbrydoliaeth ac mae ei gonestrwydd, ei chynhesrwydd a'i dewrder wedi bod yn ffynhonnell cryfder i nifer o bobl.
If ever an honour was richly deserved, this is it. Deborah has been an inspiration and her honesty, warmth and courage has been a source of strength to so many people.
— Boris Johnson (@BorisJohnson) May 12, 2022
My thoughts are with Deborah and her family. She has the country’s love and gratitude.https://t.co/09L6YAnfDt
Llun: Deborah James / Just Giving