Pryderon bod costau amaeth wedi 'codi'n aruthrol'
12/05/2022Pryderon bod costau amaeth wedi 'codi'n aruthrol'
Mae yna rybudd bod angen i'r arian mae ffermwyr yn ei dderbyn am eu llaeth godi'n sylweddol.
Daw'r alwad er mwyn i ffermwyr allu ymateb i'r cynnydd cyffredinol mewn costau ar draws y diwydiant.
Mae'r cynnydd mewn bwyd anifeiliaid, gwrtaith a chostau cynyddol ynni'n golygu bod ffermwyr am i archfarchnadoedd gydnabod hynny, a thalu mwy iddyn nhw am eu cynnyrch.
Yn Nyffryn Clwyd, mae ‘na waith mawr yn paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ddiwedd y mis.
Ond ychydig gaeau i ffwrdd mae’r gwaith bob dydd yn parhau ar fferm odro Llwyn Banc.
'Stryglo ers blynyddoedd'
Fe ddaeth Rhys Hughes i fusnes ei deulu wyth mlynedd yn ôl ac mae o wedi gweld costau’n cynyddu ers hynny.
"Ym marn i dylse pris llaeth 'di codi ers blynyddoedd. Ma' ffarmwrs ma'n stryglo ers blynyddoedd wan," meddai.
Ar hyn o bryd, mae pris litr o laeth ar ei uchaf ers pum mlynedd, 36.8 ceiniog fis Mawrth, yn ôl bwrdd datblygu’r AHDB.
Ac yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru ddydd Iau, fe gynyddodd gwerth cynnyrch llaeth y llynedd bumdeg wyth miliwn - neu 11% - hynny ar ôl cwymp yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ond dydy hynny ddim wedi arwain at gynhyrchu rhagor o laeth, ac un o’r rhesymau ydy bod costau cynhyrchu hefyd wedi bod yn codi.
Petai’r pris llaeth yn codi, mi fyddai hynny’n rhoi mwy o ffydd i ffermwyr fel Rhys i gynhyrchu mwy.
"Fi'n gwbod lot o ffarmwrs fydd yn cynhyrchu llai achos ma' nhw 'di gael llai o giwan, ond 'dan ni yma yn Llwyn Banc, 'dan ni'n trio cadw yields y gwartheg i fyny, mor uchel 'dan ni'n gallu", ychwanegodd Rhys.
Mae Dairy UK sy’n cynrychioli proseswyr llaeth, yn deud bod eu haelodau nhw hefyd yn wynebu costau cynyddol o ran pecynnu, cynhwysion, cludiant a labelu.
Ond maen nhw'n ychwanegu bod pris llaeth wedi codi’n ddiweddar a bod rhagor i ddod.
Yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain, sy’n cynrychioli archfarchnadoedd, maen nhw’n ceisio gwarchod cwsmeriaid rhag costau cynyddol tra hefyd yn talu pris cynaliadwy i ffermwyr.