Newyddion S4C

15 mlynedd o Gavin & Stacey: ‘Rhaglen arall oedd hi yn y dechra’

13/05/2022

15 mlynedd o Gavin & Stacey: ‘Rhaglen arall oedd hi yn y dechra’

Doedd dim syniad y byddai Gavin & Stacey yn gyfres “mor boblogaidd” ac roedd hi fel unrhyw “raglen arall” i ddechrau, yn ôl un aelod o’r cast.

Bu Gwynfor Roberts yn siarad â Newyddion S4C union 15 mlynedd ers i’r bennod gyntaf gael ei darlledu.

Fe ymddangosodd mewn sawl pennod yn ystod y gyfres fel un o siaradwyr Cymraeg y gymuned yn Y Barri, Dick Powell.

“Mae o wedi chwythu pen pawb dwi’n meddwl bod o mor boblogaidd a hyd yn hyn dal i fod yn boblogaidd,” meddai.

Yn ôl Gwynfor Roberts, fe gynyddodd ei rôl yn y gyfres wrth iddi fynd yn ei blaen.

“Ar y dechra’ wrth gwrs, cerddwr o’n i, felly doedd gen i ddim llawer o bŵer.  

“O’dd Ruth [Jones] yn enwedig, o’dd hi isho cael rhywun yn siarad Cymraeg ag o’dd hi yn dda iawn am gyfleu bod isho rhywun, siaradwr Cymraeg, yn y gyfres ‘lly.”

Image
Ynys Y Barri
Roedd nifer fawr o olygfeydd y gyfres wedi eu ffilmio a'u lleoli yn Ynys Y Barri.

'Gwneud lot fawr i'r Barri'

Mae’r effaith ar y gymuned yn Y Barri yn un sylweddol, yn ôl Gwynfor.

“Mae nifer iawn o bobl yn dod i’r Barri, er mwyn cael gweld lleoliad Gavin & Stacey a ma’ ‘na deithiau o gwmpas Y Barri sy'n dangos  i bobol lle o’ddan nhw’n byw ac lleoliadau eraill ar yr Ynys wrth gwrs.  

“So na, mae ‘di ‘neud lot fawr iawn i Ynys y Barri dwi’n credu,” ychwanegodd.

Ond tu hwnt i hynny, dywed Gwynfor fod y gyfres yn cynnig llwyfan rhyngwladol i Gymru.

“Er mai cyfres ddoniol o’dd o wrth gwrs yn wreiddiol, o'dd o yn dangos mwy o bobol Cymraeg ac pobl o Gymru i bobol ar draws y byd,” meddai.

Image
Gwynfor Roberts - Pobol y Cwm
Mae Gwynfor Roberts hefyd yn adnabyddus am ymddangos yn Pobol y Cwm am fwy na 30 mlynedd.

'Gwynfor Y Deri bar'

Ond fe fydd eraill yn ei adnabod am ei rôl fel Gwynfor ym Mhobol y Cwm, yn ymddangos mewn nifer o olygfeydd yng Nghwmderi dros nifer o flynyddoedd.

“Fues i dros 30 mlynedd ar Bobol y Cwm a mae o’n rhyfadd achos yn naturiol ma’r rhan fwyaf o bobl sy’n siarad Cymraeg yn gwylio rhaglenni Cymraeg yn ‘nabod fi fel Gwynfor cael peint yn Y Deri bar,” meddai. 

“Ac eto wedyn mae ‘na lot o wylwyr o Gavin & Stacey, mwyafrif ohonyn nhw yn Gymraeg ond yn ddi-Gymraeg iaith a ma’ nhw’n gweld fi fel Dick.

Fe ddaeth y gyfres yn ei hôl ar gyfer pennod Nadolig yn 2019 – a hynny bron i 10 mlynedd ers y bennod flaenorol.

Ers hynny, mae nifer wedi bod yn gofyn a fydd mwy o benodau yn y dyfodol.

“Y cwestiwn mawr gan pawb ydy odi o’n do yn ôl, oes ‘na gyfres arall, neu oes ‘na un rhaglen arall,” meddai Gwynfor.

“Dwi’n siŵr bod pawb o’dd yn rhan o’r gyfres, fysan nhw yn mwynhau’n fawr iawn gweld rhyw raglen arall neu gyfres arall.

“Never say never ma’ nhw’n ddeud ond sai’n job anodd iawn ond 'swn i wrth fy modd 'sen nhw’n neud cyfres arall a 'swn i wrth fy modd yn dod ‘nôl fel Dick.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.