Carcharu'r cyn bencampwr dartiau, Ted Hankey, am ddwy flynedd

Mae cyn bencampwr y byd dartiau, Ted Hankey, wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd ar ôl cael ei ddal ar gamera yn ymosod yn rhywiol ar ddynes ifanc.
Fe wnaeth Mr Hankey ymosod ar y ddynes yn Crewe ar 10 Medi y llynedd, gyda'r ferch o dan 18 mlwydd oed.
Yn ogystal â cael ei garcharu, bydd yn cael ei roi ar gofrestr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd.
Enillodd Ted "The Count' Hankey, bencampwriaeth BDO y byd dartiau yn 2000 a 2009.
Darllenwch fwy yma.