Rambo'r tarw o Nebo'n torri record byd gan werthu am £189,000
Mae tarw o Nebo yn Sir Cowny wedi torri record byd newydd ar ôl cael ei werthu am 180 gini - rhyw £189,000.
Cafodd Graiggoch Rambo'r pris uchaf eto yn arwerthiant flynyddol y Gymdeithas Limousin yn Borderway, Carlisle.
Yn dilyn yr arwerthiant, dywedodd ei gyn-berchennog, Gerwyn Jones wrth wefan Limousin ei fod yn dechrau dod i arfer gyda'r newyddion.
"Ar ôl gweithio gyda bridwyr profiadol am amser maith roeddwn yn gwybod fod Rambo'n rhywbeth arbennig, ac fe gafodd hyn ei gadarnhau gan y diddordeb a'r cynigion i mi adref cyn yr arwerthiant.
"O achos y sylw yr oedd yn ei hawlio, roeddwn yn pryderu y byddai hyn yn atal rhai rhag gwneud cynigion ond diolch byth nid dyma'r achos.
"Rwyf fi wrth fy modd fod fy Limousin cofrestredig cyntaf wedi gwerthu mor dda."
Cafodd Rambo ei brynnu ar y cyd gan y Jenkinsons sydd yn gyfrifol am fuches Whinfellpark, Penrith a Boden a Davies Ltd sydd yn rheoli gyr y Sportsmans, yn Stockport, Sir Caer.
Ar ôl y digwyddiad dywedodd Iain Scott, rheolwr ffermio gyda Whinfellpark: “Bosib mai dyma'r tarw gorau i ni ei weld ar werth yn Carlisle. Mae ei linach fridio'n rhyfeddol. Mae'n llydan gyda thrwch cyhyrau ac yn gywir ar ei draed. Bydd Rambo'n mynd i'w fridio'n syth."
Llun: Limousin