Cais am 'Stadiwm i'r Gogledd' yn derbyn cefnogaeth trawsbleidiol
Mae ymdrech i sefydlu'r Cae Ras fel stadiwm ryngwladol ar gyfer y gogledd wedi derbyn cefnogaeth gan y prif bleidiau gwleidyddol.
Gobaith y cais yw i sefydlu eisteddle newydd yn y stadiwm hanesyddol fyddai'n dal 5,500 o gefnogwyr, a gwella isadeiledd y safle.
Fe fyddai maes parcio newydd a chyfleusterau i'r wasg hefyd yn cael eu datblygu yno.
Byddai datblygiad o'r fath yn golygu y gallai gemau rhyngwladol o bwys gael eu cynnal yn y dref, ac mae deiseb wedi ei chreu i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i ariannu'r cynllun.
Darllenwch ragor yma.