Cynllun i sefydlu awdurdod newydd i sicrhau diogelwch hen domenni glo
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i sefydlu awdurdod newydd fyddai'n goruchwylio diogelwch hen domenni glo.
Yn ôl y llywodraeth, pwrpas yr awdurdod fyddai sicrhau bod "pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi" rhag tirlithriadau ger safleoedd hen byllau glo.
Mae'r awdurdod yn rhan o Bapur Gwyn sydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau, ac sydd yn rhan o gynigion y llywodraeth i sefydlu trefn genedlaethol newydd o reoli a chategoreiddio hen safleoedd mwyngloddio.
Daw'r cynlluniau wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r llynedd y bydd rhaid gwario £500m er mwyn sicrhau tomenni glo Cymru dros yr 10 i 15 mlynedd nesaf.
Mae ardaloedd ar draws Cymru wedi gweld tirlithriadau yn y blynyddoedd diwethaf wrth i law trwm ddisodli tunelli o hen wastraff glo, gan achosi pryder ymysg cymunedau lleol dros ddiogelwch eu tai.
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae dros 40% o domenni glo yng Nghymru yn rhai risg uchel.
Bydd yr awdurdod yn goruchwylio'r drefn newydd o gategoreiddio tomenni glo, gan asesu'r risg mae pob safle yn ei fygwth i gymunedau lleol.
Ar ôl asesu'r tomenni glo, fe fyddai'r awdurdod yn cynnig cynlluniau cynnal a chadw am bob safle er mwyn lleihau'r bygythiad o dirlithriadau.
Wrth gyhoeddi'r cynlluniau, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ei bod yn "deall pam mae’r bobl sy'n byw yng nghysgod tomenni glo yn teimlo’n nerfus.
"Oherwydd bod mwy a mwy o risg yn sgil yr argyfwng hinsawdd, mae'n amlwg nad yw'r gyfraith bresennol ar ddiogelwch tomenni glo yn addas i'r diben erbyn hyn," meddai.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon i sicrhau bod pobl yn y cymunedau hynny a chwaraeodd ran hanfodol yn y chwyldro diwydiannol yn gallu teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain."
Bydd ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn yn para am 12 wythnos.