Covid-19: Rheol gwisgo mygydau mewn meysydd awyr yn Ewrop i ddod i ben

Fe fydd y rheol sydd yn golygu fod angen gwisgo mygydau mewn meysydd awyr ac ar hediadau yn Ewrop yn dod i ben wythnos nesaf.
Daw'r newyddion yn dilyn penderfyniad gan y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau.
Bydd gan gwmnïau hedfan yr hawl i barhau i osod eu canllawiau eu hunain pan fydd y rheol yn cael ei diddymu ar 16 Mai.
Y cyngor ar gyfer teithwyr o Brydain ar hyn o bryd yw eu bod yn cysylltu gyda'u darparwyr teithio yn gyntaf i weld os oes rheolau Covid-19 yn parhau mewn grym yn y gwledydd maen nhw'n teithio iddynt.
Darllenwch ragor yma.