iPod touch i ddod i ben ar ôl 21 o flynyddoedd

The Washington Post 11/05/2022
iPod / Apple

Mae Apple wedi datgan eu bod am ddod â'r iPod i ben ar ôl  21 o flynyddoedd.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y cwmni y byddai'n parhau i werthu seithfed cenhedlaeth yr iPod touch "tra bo cyflenwadau'n parhau".

Ond yn ôl The Washington Post, nid oedd y penderfyniad yn fawr o syndod.

Fe ddaeth yr iPod classic i ben yn 2014 a'r iPod nano tair blynedd yn ddiweddarach.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.