
Awduron Cymreig ddim yn 'gwneud eu ffortiwn' drwy gyhoeddi llyfrau yng Nghymru
Awduron Cymreig ddim yn 'gwneud eu ffortiwn' drwy gyhoeddi llyfrau yng Nghymru
Nid yw'n bosib i awduron “wneud eu ffortiwn” yng Nghymru drwy gyhoeddi llyfrau yn unig, yn ôl awdur blaenllaw.
Dywedodd Bethan Gwanas wrth Newyddion S4C mai’r unig ffordd o sicrhau cyflog uwch yn y diwydiant yw mynd at weisg mwy yn Lloegr.
Daw ei sylwadau ar ôl i Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth a Llenyddiaeth Cymru lansio arolwg newydd i gasglu mwy o wybodaeth am y cyflogau mae awduron yn eu derbyn y tu hwnt i'r byd cyhoeddi.
“Mae o’r un peth rŵan ag oedd o 10, 15, 20 mlynedd yn ôl i mi,” meddai.
“Os wyt ti’n sgwennu llyfra’ ti ddim yn mynd i ‘neud dy ffortiwn oni bai bo ti’n cael dy fachu gan wasg o Loegr.
“Os wyt ti’n cario ‘mlaen yn sgwennu’n Gymraeg, ti’n goro neud bob math o wahanol fatha’ o sgwennu, dim jyst llyfra’, llyfra’ i blant, llyfra’ i oedolion, llyfra’ i ddysgwyr, sgriptia’ bach, ac yn fy achos i cyfieithu.
“A tristwch y peth ydy bo chi’n cael mwy am gyfieithu nag am sgwennu rhywbeth gwreiddiol.”

Ond dywed Bethan fod llyfrgelloedd yn gallu cynnig ychydig o gefnogaeth ychwanegol i awduron – a hynny’n rhywbeth na fyddai pawb yn ymwybodol ohono.
“Dwi’m yn meddwl bo' bobl yn dallt dudwch bo chi’n prynu llyfr, ella bo chi’n fenthyca fo i bawb yn y teulu, i ffrindia’ fel sy’n digwydd yn aml efo llyfra’ Cymraeg, ond os ‘dach chi’n fenthyg o o’r llyfrgell, ‘dan ni’n cael 11 ceiniog bob tro.”
Ond yn ôl Bethan, yr ateb er mwyn sicrhau cyflogau tecach i awduron yw bod pobl ar lawr gwlad yn prynu mwy o lyfrau.
“Dwi’n gwbod bod pres yn brin ond 'swn i yn gallu gwneud hefo rhywfaint ohono fo, ond y gwir amdani ydy, ‘dan ni isho i chi brynu’n llyfra’ ni os gwelwch yn dda.”

‘Mynd i Loegr’
Mae Jessica Dunrod yn awdur i blant o Gaerdydd.
Yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn gweithio gyda Mudiad Meithrin ar brosiect AwDUra sy’n annog pobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i ysgrifennu straeon Cymraeg i blant bach.
Dywedodd Jessica wrth Newyddion S4C ei bod hi’n anodd i awduron dderbyn cyflog teg am eu gwaith.
“Dwi’n gorfod mynd allan a darganfod ymddangosiadau mewn ysgolion fy hun, dwi’n cyhoeddi o fy ystafell, dwi’n dosbarthu o fy ystafell.
“Dwi’n cyfieithu llyfrau plant gan awduron Du felly os ydyn nhw wir yn mynd i edrych ar hyn, a fedran nhw edrych ar awduron Du, oherwydd nid oes gennym lawer ohonynt”.
Dywed Prifysgol Aberystwyth fod yr arolwg ar agor i unrhyw awdur sy’n gweithio yng Nghymru.
Ond dywed Jessica fod y gefnogaeth ar hyn o bryd i awduron yng Nghymru yn annigonol.
“Dyw e ddim yn stopio pobl Cymreig rhag mynd i Loegr i gyhoeddi oherwydd mai dyna lle maen nhw’n darganfod y cyfleoedd.
“Dyna’r unig ffordd y gallwn ni dderbyn cytundeb llyfrau dechau, oherwydd maen nhw mor ddibynnol ar y system bresennol.”

'Cyflog teg'
Bwriad yr astudiaeth, yn ôl y brifysgol, yw sicrhau bod awduron Cymraeg a Saesneg yn cael “cyflog teg”.
Fel rhan o’r astudiaeth, sy’n agored i unrhyw awdur sy’n gweithio yng Nghymru, fe fydd cyfranwyr yn cael eu holi am incwm ysgrifennu, dull cyhoeddi a pha gyfran o’u hincwm sydd yn deillio o ddigwyddiadau.
Byddan nhw hefyd yn cael eu holi am effaith pandemig Covid-19 ar eu gwaith.
Bydd ymchwilwyr yn holi 15 o sefydliadau comisiynu i ddarganfod sut maen nhw’n cyfri taliadau i awduron.
Yn sgil canlyniadau’r ymchwil, mae Llenyddiaeth Cymru yn bwriadu creu canllawiau talu ar gyfer sefydliadau comisiynu, a fyddai'n dylanwadu ar sut mae comisiynwyr yn talu am gynnwys.