
Galw o’r newydd am ffordd osgoi yn Llanbedr wedi gwrthdrawiad

Galw o’r newydd am ffordd osgoi yn Llanbedr wedi gwrthdrawiad
Mae ‘na alwadau o’r newydd am ffordd osgoi i bentref Llanbedr yn Ardudwy.
Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fyddai’r cynllun yn mynd yn ei flaen er mawr siom i nifer yn lleol.
Ond yn dilyn gwrthdrawiad yn y pentref dros y penwythnos mae rhieni lleol yn dweud bod cerdded drwy’r pentref yn beryglus a bod yn rhaid gwneud rhywbeth i wella diogelwch.
“Dwi'n byw ochr arall i'r bont a dwi isio i'r mab cael dod a'i hun i'r ysgol, ond dio'm yn saff – yn enwedig ar ôl be ddigwyddodd ar y penwythnos 'ma,” meddai Rebecca Evans wrth raglen Newyddion S4C.
“Yn y cyfamser 'sa'n syniad roi ryw bethau yn y pentref i neud o'n saffach, jyst tra ma' nhw'n dechrau penderfynu os di nhw'n mynd i neu beidio.”

Un arall sy’n pryderu am ddiogelwch pobl yn y pentref yw Tabitha Evans.
“Pan ti'n mynd dros y bont ma' 'na single lane arna fo,” eglurai.
“So dwi'n gorfod cerdded efo un plentyn, trio rhoi y llall yn y pram a dwi yn ofn cerdded drwy y pentref.
“Fydda i weithiau yn mynd a'r car achos mae'n saffach, ond y yr haf ti'm yn gallu mynd a'r car achos ma'n cymryd hanner awr i fynd o un lle i'r llall. Dio'm yn neud sens.”
Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i ail ystyried eu penderfyniad i beidio bwrw mlaen â’r ffordd osgoi, a hynny oherwydd rhesymau diogelwch ac economaidd.
“Mae’n beryg iawn yma drwy gydol y flwyddyn, ond mae’r peryg yn cynyddu adeg yma o’r flwyddyn,” meddai’r Cynghorydd Anwen Hughes, Aelod lleol o Gyngor Gwynedd,
“Dwi’n galw ar y Llywodraeth i ail feddwl am y penderfyniad i ganiatáu i’r ffordd osgoi fynd yn ei blaen.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:
“Mae trafodaethau yn parhau ar opsiynau i gyfarch anghenion trafnidiaeth pentref Llanbedr a’r ardal ehangach.
“Byddai hyn hefyd wrth gwrs yn cynnwys sicrhau mynediad addas i Ganolfan Awyrofod Eryri er mwyn hwyluso datblygiad o safon i allu cynnig swyddi gwerth uchel i bobl leol yn yr ardal yma o Feirionnydd. Mae’r gwaith yma yn parhau.”
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth:
"Mae bygythiad newid hinsawdd yn gwneud hi’n hanfodol ein bod ni’n defnyddio dull gwahanol o ymdrin â thrafnidiaeth. Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i ddatblygu atebion cynaliadwy i fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â thraffig yn y pentref a mynediad i'r maes awyr, fel y rhai a awgrymwyd yn adroddiad yr Adolygiad Ffyrdd."