
Dirwy uniaith Saesneg: Taflu achos yn erbyn ymgyrchydd iaith allan o'r llys
Mae achos cyfreithiol yn erbyn ymgyrchydd iaith am wrthod talu dirwy barcio wedi ei daflu allan o'r llys.
Roedd Toni Schiavone, sy'n gyn-athro a swyddog addysg gyda Llywodraeth Cymru, wedi gwrthod talu'r ddirwy am ei bod yn uniaith Saesneg. Dywedodd bod yr holl ohebiaeth a gafodd eu hanfon ato gan gwmni One Parking Solution wedi hynny, hefyd yn y Saesneg yn unig.
Cafodd yr achos yn erbyn Mr Schiavone yn Llys Ynadon Aberystwyth ei ddiddymu fore dydd Mercher gan nad oedd cynrychiolydd o One Parking Solution yn bresennol, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae pencadlys One Parking Solution yn Worthing, Gorllewin Sussex.
Cafodd Toni Schiavone y ddirwy barcio ym mhentref glan môr Llangrannog yn ne Ceredigion ym mis Medi 2020.

Yn dilyn y penderfyniad i ddwyn yr achos i ben, dywedodd Toni Schiavone: "Fe wnes i ofyn dro ar ôl tro am yr hysbysiad cosb yn Gymraeg, a byddwn i wedi talu'r ddirwy, ond yn lle hynny penderfynodd One Parking Solutions fynd â fi i'r llys.
"Am bod y llys wedi gofyn iddyn nhw gyfieithu copi o'r hysbysiad cosb fe wnaethon nhw, ond cymerodd hi achos llys iddyn nhw wneud - a wnes i ddim derbyn yr hysbysiad swyddogol yn Gymraeg o gwbl.
"Gan iddyn nhw orfod cyfieithu copi'r hysbysiad cosb does dim byd yn eu rhwystro nawr rhag cyflwyno hysbysiadau cosb yn Gymraeg yn y dyfodol."
Ychwanegodd: "Mae cwmnïau fel hyn yn gallu gwneud pethau yn Gymraeg, ond dim ond os oes gorfodaeth gyfreithiol iddyn nhw wneud. A dim ond un o nifer o gwmnïau preifat sy'n rhedeg meysydd parcio yw hwn. Yn amlwg felly, newid y Mesur Iaith i gynnwys y sector breifat sydd ei angen.
"Mae dros ddeng mlynedd ers i'r Mesur Iaith fod mewn lle, ac mae gweithdrefn y Safonau wedi gwneud gwahaniaeth yn y sector cyhoeddus - mae mwy o bobl yn gallu ac yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg eu cynghorau ac yn y blaen. Felly pryd gawn ni weld yr un newid yn y sector preifat?"
Mewn ymateb i'r datblygiad, dywedodd llefarydd ar ran One Parking Solution: "Rydym wedi cael gwybod am yr achos llys. Mae wedi’i drosglwyddo i’n tîm cyfreithiol."