Rhyfel Wcráin: Pryder fod degau wedi marw mewn ymosodiad ar ysgol

Fe allai hyd at 60 o bobl fod wedi marw ar ôl ymosodiad gan luoedd Rwsia ar ysgol yn nwyrain Wcráin.
Fe laniodd bom ar yr ysgol lle'r oedd 90 o bobl yn llochesu rhag yr ymladd ddydd Sadwrn yn ôl arweinydd rhanbarth Luhansk.
Mae Gweinidog Tramor Llywodraeth y DU wedi condemnio'r ymosodiad, gan ddweud fod targedu sifiliaid yn fwriadol yn drosedd rhyfel.
Mae 30 o bobl wedi eu hachub o weddillion yr ysgol gyda saith o bobl wedi dioddef anafiadau.
Darllenwch ragor yma.