Newyddion S4C

Botox y farchnad ddu yn cael ei ddefnyddio mewn salon yng Nghymru

Y Byd ar Bedwar - *HEN* 09/05/2022

Botox y farchnad ddu yn cael ei ddefnyddio mewn salon yng Nghymru

Mae gweinyddwraig salon yng Ngogledd Cymru wedi cael ei dal ar gamera cudd yn cyfaddef ei bod yn defnyddio cynnyrch sydd heb ei drwyddedu i wneud triniaethau cosmetig.

Mewn ymchwiliad arbennig gan raglen materion cyfoes S4C, Y Byd ar Bedwar, mae tystiolaeth yn datgelu bod rhai gweinyddwyr yng Nghymru’n anwybyddu canllawiau meddygol wrth gynnig Botulinum Toxin. 

Tri math o ‘Botox’ sydd wedi ei drwyddedu yn y DU ar gyfer defnydd cosmetig sef Bocoture, Botox ac Azzalure.

Image
Camddefnydd Botox
Nid yw Botulax wedi cael ei drwyddedu i’w ddefnyddio fel triniaeth gosmetig yn y DU.

Mewn apwyntiad gyda newyddiadurwr Y Byd ar Bedwar, mae gweinyddwraig mewn salon yn y gogledd yn cyfaddef ei bod yn defnyddio Botulax, cynnyrch sydd heb ei drwyddedu.

Mae’r diwydiant esthetig yn y DU yn werth £3.6 biliwn ond gyda thwf aruthrol yn y rhai  sy’n derbyn triniaethau cosmetig, mae mwy o alwadau nag erioed i reoleiddio’r diwydiant yng Nghymru.

Un sydd wedi gweld yr hyn all fynd o'i le gyda thriniaethau sydd heb eu trwyddedu yw'r Athro Iain Whitaker. Ar ôl trin claf yn Ysbyty Treforys oedd wedi derbyn triniaeth ddi-drwydded mewn garej, mae'n dweud bod y sefyllfa yn un bryderus.

Image
Camddefnydd Botox
Dyma sgil effeithiau claf yn Ysbyty Treforys wedi iddo dderbyn triniaeth gyda chynnyrch di-drwydded.

Wrth ddisgrifio sgil effeithiau’r cynnyrch oedd heb ei drwyddedu ar ei glaf, dywedodd:  “Mae’n fy ngwneud i’n drist i feddwl am yr effeithiau hir dymor. Does dim modd gwirio hwn, does dim modd symud y creithiau. Mae’n enghraifft o driniaeth ddylai ddim fod wedi cael ei wneud sydd ddim yn gallu cael ei wrthdroi.”

Image
Yr Athto Iain Whitaker
Dywedodd yr Athro Iain Whitaker bod nifer y bobl sydd angen gwaith cywiro dros y blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu.

Wrth wylio tystiolaeth gudd Y Byd ar Bedwar, yn dilyn apwyntiad mewn salon yn y gogledd, dywedodd yr Athro Iain Whitaker ei fod wedi'i synnu.

 “Dw’i ddim yn siwr beth i ddweud...” meddai.

“Dyw hyn ddim yn rhywbeth fyddech chi’n cysylltu gyda gwasanaeth sy’n darparu triniaeth meddygol. Yn amlwg, mae hi’n trafod mathau o gynnyrch Botox, rhai sydd wedi eu trwyddedu, ond mae’r cynnyrch penodol mae hi’n dweud mae hi’n mynd i’w ddefnyddio yn gynnyrch sydd heb ei drwyddedu, sy’n bryder mawr.”

Mewn e-bost, fe ddywedodd y weinyddwraig o'r gogledd nad oedd hi’n ymwybodol bod Botulax yn gynnyrch oedd heb ei drwyddedu. Ychwanegodd ei bod bellach wedi gwaredu’r cynnyrch a’i bod hi ddim yn cynnig Botulax fel triniaeth bellach.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol bod bwlch rheoleiddio yng Nghymru a’u bod yn bwriadu gwneud gwaith pellach yn y maes.

Y Byd ar Bedwar, S4C nos Lun 9 Mai am 20.00

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.